History Banner new GettyImages-938178018.jpg

Effaith Ymchwil

Prof Madeleine Gray_ History Impact StoriesWales: Gwlad y pererindod

Mae ymchwil yr Athro Maddy Gray ar bererindod yng Nghymru’r Oesoedd Canol wedi llywio polisi Llywodraeth Cymru ar dwristiaeth yn uniongyrchol. Mae ei gwaith wedi amlygu potensial llwybrau pererindod i ddenu ymwelwyr i Gymru ac i greu buddion economaidd cynaliadwy mewn ardaloedd difreintiedig. 

Mae Gray wedi bod yn sbardun i’r Ffordd Sistersaidd, llwybr troed pellter hir sy’n cysylltu safleoedd mynachaidd yng Nghymru, a gafodd ei urddo yn 2016. Wedi’i gynllunio ar y cyd â’r Cerddwyr, a gyda nawdd gan Croeso Cymru, mae’r Ffordd Sistersaidd yn cydblethu â Chynllun Gweithredu Twristiaeth Ffydd (2013) Llywodraeth Cymru, y bu Gray yn helpu i’w ddrafftio. 

Mae ymchwil Maddy Gray wedi archwilio rôl allweddol yr Urdd Sistersaidd yn natblygiad tirwedd Cymru. Sefydlwyd pymtheg o dai Sistersaidd yng Nghymru'r oesoedd canol, y cyntaf ohonynt yn y 1130au. Yr oeddynt i gael effeithiau ysbrydol, gwleidyddol, a materol dwys. Mwynhaodd y Sistersiaid nawdd y tywysogion Cymreig, y rhai a roddodd diroedd ar yr urdd ac a noddodd adeiladu eglwysi a mynachlogydd. Roedd y Sistersiaid, o'u rhan hwy, yn rym dros newid economaidd, nid yn unig trwy gyflwyno arferion amaethyddol newydd ond trwy ddenu a gofalu am bererinion. Cyfrannodd y creiriau a ddelid mewn tai Sistersaidd, ynghyd â chysegrfeydd a ffynhonnau sanctaidd mewn mannau eraill yng Nghymru, at ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig yn yr Oesoedd Canol. Gall manteisio ar yr ymdeimlad hwnnw o hunaniaeth heddiw a denu mwy o ymwelwyr i safleoedd mynachaidd a lleoedd cysegredig fod yn llwybr annisgwyl i adfywio economaidd. 

Slavery Image: Free Woman of Color, Barbados, late 1770s by Agostino BruniasCaethwasiaeth Cymru ac Iwerydd: Lleihau amnesia hanesyddol

Mae gwaith gan yr Athro Chris Evans ar hanes ataliedig Cymru a chaethwasiaeth yr Iwerydd yn effeithio ar y ffyrdd y mae cyrff cyhoeddus ac artistiaid creadigol yn ymdrin â gorffennol anodd, dadleuol.  Mae Evans arbenigedd yn y berthynas rhwng caethwasiaeth yr Iwerydd a datblygiad diwydiannol yn Ewrop, gyda ffocws penodol ar ddiwydiant Cymru. Datgelodd ei lyfr Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660-1850 (2010) am y tro cyntaf arwyddocâd gwlân Cymreig yng nghaethwasiaeth yr Iwerydd rhwng y 1680au a’r 1840au. Gan ddefnyddio deunydd yn archifau Prydain ac UDA, roedd Evans yn gallu dangos sut roedd ffabrig Cymreig yn cael ei fasnachu ar gyfer caethion ar arfordir Gini, a’i werthu mewn cyfeintiau mawr i blanwyr yn y Caribî a Gogledd America. Wedi'i farchnata fel “Negro Cloth”, defnyddiwyd gwlân Cymreig i ddilladu gweithwyr a oedd yn gaeth. 

Caethwasiaeth Cymru oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer prosiect ymchwil cymunedol, From Sheep to Sugar: Welsh Wool and Slavery, a gefnogwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Wedi’i leoli yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru, sef calon cynhyrchu “Negro Cloth”, cyfarwyddwyd y prosiect gan Learning Links International CIC, menter gymdeithasol sy’n arbenigo mewn mentrau addysgol sy’n cysylltu Cymru â’r Caribî ac Affrica. Mae’r prosiect wedi’i gydnabod fel ymateb rhagorol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn ei hadroddiad 2020 Astudiaethau Cymreig: Ymchwil am Gymru, i Gymru a’r Byd. 

Wedi’i hysbrydoli gan y prosiect, ysgrifennodd yr awdur arobryn Angharad Tomos nofel i oedolion ifanc, Y Castell Siwgr [The Sugar Castle] (2020), sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng Cymru a Jamaica trwy ei dau brif gymeriad yn eu harddegau, un yn rhydd ac un yn gaeth.  Ar ôl darllen Slave Wales Evans, dyluniodd un artist tecstilau, Jennifer Hodgeman, osodiad tecstilau, “Sugar(sic)k”, a gafodd ei arddangos yn The Weir Garden, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Swydd Henffordd sy’n denu 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, yn 2019. 

Ffoto: Free Woman of Color, Barbados, late 1770s, gan Agostino Brunias