America Ladin - ffin olaf caethwasiaeth Prydain

Latin America - the last frontier of British slaveholding Pic by Johann_Moritz_Rugendas_in_Brazil_2



Professor Chris Evans - thumbnailSiaradodd Chris Evans, Athro Hanes yn PDC, ar y testun "British capital and enslaved miners at El Cobre, Cuba, from the 1830s to the 1860s" yn Forgotten Histories: Latin America – The Last Frontier of British Slaveholding, symposiwm a gynhaliwyd yn Canning House, melin drafod America Ladin yn Llundain. 


Esboniodd Evans sut y cynhyrchodd buddsoddiad Prydain mewn mwyngloddio copr yn El Cobre yr hyn a oedd, erbyn 1840, y fenter gaethwasiaeth sengl fwyaf yn hemisffer y gorllewin. Roedd hyn yn rhan o batrwm ehangach. 


Er i gaethwasiaeth gael ei diddymu yn ymerodraeth Prydain yn yr Iwerydd yn y 1830au, roedd allforion cyfalaf o Lundain yn cefnogi lledaeniad caethwasiaeth ym Mrasil, Cuba, a thaleithiau deheuol UDA drwy'r 1840au a'r 1850au.


Heddiw, nid yw'r hanes hwn wedi'i ymchwilio'n helaeth ac i lawer, mae'n ymddangos ei fod wedi’i anghofio. 


Yn y rhifyn hwn o gyfres digwyddiadau Forgotten Histories, croesawodd Canning House banel o academyddion blaenllaw y mae eu gwaith wedi canolbwyntio ar y cyfnod llai adnabyddus hwn o gaethwasiaeth Brydeinig yn America Ladin.


Gallwch ddarllen mwy am waith yr Athro Chris Evans yma.